Ceri John Phillips
Gwas Awen
Cyfarwydd
Llandeilo, Sir Gâr, Wales
Treigleis y mywn lawr
Kyn bum lleenawr.
Treiglies kylchyneis
Kysceis cant ynys.
Cant caer a thrugys.- Llyfr Taliesin, 'Kat Godeu'
FERSIWN CYFOES
FERSIWN CYFOES
Gwnes deithio trwy'r Ddaear,
Cyn y dysgais digon.
Teithiais a Chylchfordwyais
Cysgais canwaith ar ynysoedd y môr.
Gwnes drigo mewncan caer.Croeso
Dyma Ceri John Phillips
Pwy?
Mae Ceri JohnPhillips (Gwas Awen) yn Gyfarwydd ym Mro Dinefwr ac yn Chwedleuwyr Swyddogol gydag elusen People Speak Up yn Llanelli. Mae Ceri'n cyn-actor, digrifwr ac awdur deledu sydd wedi gweithio gyda S4C, BBC, ITV, mewn ffilmiau, sioeau teledu, radio ac ar lwyfannau ledled Prydain.
Beth?
Mae Ceri yn chwedleuwyr sy'n perfformio'ngyson mewn amryw o amgylchiadau. Boed iddo fod ar lwyfan gwyl chwedleua rhyngwladol Beyond the Border International neu o flaen dosbarth o blant, mae Ceri'n trin bob cynulleidfa fel lluoedd y Royal Albert Hall.
Gyda repertoire eang sy'n cynnwys straeon o dros y byd i gyd - o Fabinogi'r Cymry i straeon ysbryd yr
Algonquin - mae Ceri'n astudio bob agwedd o'i grefft cymaint ag adlonni cynulleidfaoedd. Dyna pam defnyddir Ceri'r yr enw 'Gwas Awen' o bryd i'w gilydd.Os ydych am weithio gyda chwedleuwyr sy'n gallu addasu i bobsefyllfa - addysg, busnes, clybiau chwaraeon - cysylltwch gyda Ceri John Phillips yn adran isaf y wefan.
Pam?
Am eglurhad o'r athroniaeth a rhesymeg sy'n sail i'w gelfyddyd cliciwch yma. Ymddiheuriadau am fod yr erthyglau ar wefan Substack yma'n uniaith Saesneg - mae Ceri wrthi'n cyfieithu nhw i gyd.
“Tradition is not the worship of ashes, but the preservation of fire.”
― Gustav Mahler.
“Gwnaeth dogn o faw ddim drwg i neb oedd coel mamgu”
– Menna Elfyn
DIOLCH
ΔΩ
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau,defnyddiwch y ffurflen isod.
Gweler gwaelod ygwefan am ddolenni cyfryngau cymdeithasol.
Copyright 2014